Cyswllt Wi-Fi am ddim i fannau cyhoeddus Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Bydd cyswllt Wi-Fi yn cael ei gynnig am ddim mewn 30 o leoliadau cyhoeddus ar draws Caerdydd erbyn Mawrth 2015, fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru.
Daw'r cynlluniau fel rhan o raglen £150 miliwn Llywodraeth y DU i ddarparu band eang ffeibr cyflym ar draws Prydain - mae £12.6 miliwn o'r arian yn cael ei fuddsoddi i raglen Cymru.
Bydd Wi-Fi ar gael yn rhai o leoliadau amlycaf y ddinas gan gynnwys Castell Caerdydd, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Y Theatr Newydd, Neuadd Dewi Sant a Neuadd y Ddinas.
Dywedodd is-weinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns: "Dwi am i Gaerdydd gael cyswllt gwe o'r radd flaenaf fel bod busnesau, teuluoedd ac ymwelwyr yn gallu manteisio ar alw'r oes ddigidol.
"Felly, mae'n newyddion gwych bod 30 o leoliadau ar draws y ddinas yn mynd i gynnig wifi am ddim. Mae'n hwb mawr i'r brifddinas ac yn sicr o wneud Caerdydd yn le deniadol i fyw, gweithio a buddsoddi ynddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2014

- Cyhoeddwyd18 Awst 2014

- Cyhoeddwyd7 Awst 2014
