Achos llofruddiaeth: Oedi ambiwlans?
- Cyhoeddwyd

Bu farw Sion Davies wedi'r digwyddiad
Mae ymchwiliad ar droed wedi honiadau bod oedi cyn i ambiwlans gyrraedd digwyddiad yn Wrecsam fis diwethaf.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi rhyddhau amserlen ddigwyddiadau sy'n dangos iddi gymryd 24 munud i'r ambiwlans cyntaf gyrraedd Sion Davies, yn sgil digwyddiad ym Mharc Caia yn gynharach yn y mis.
Bu farw Mr Davies yn oriau mân bore dydd Sadwrn 11 Hydref.
Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o'i lofruddio, ac yn parhau i fod yn y ddalfa.

Amserlen y gwasanaeth ambiwlans
00:37 - Derbyn yr alwad i ddigwyddiad ym Mharc Caia
00:43 - Ambiwlans yn ymateb i alwad yn Fflint
00:43 - Gwasanaeth ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr yn cadarnhau cymorth o Groesoswallt
01:01 - Gwasanaeth ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr yn cyrraedd Parc Caia
01:06 - Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'r cyrraedd Parc Caia

'Gwersi hanfodol'
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans: "Hoffem ddatgan ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau'r dyn fu farw.
"Roedd ein criw eisoes wedi ymrwymo i alwadau 999 eraill cyn derbyn galwad am y digwyddiad yma.
"Mae hyn yn golygu i ni fethu ac ymateb i'r alwad cyn gyflymed a hoffwn. Rydym yn gweithio gyda ein cydweithwyr ar y Bwrdd Iechyd i geisio deall pa wersi sy'n hanfodol i ni eu dysgu o'r digwyddiad yma.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mi fydd y Bwrdd Iechyd yn ymgymryd ag ymchwiliad ar y cyd gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'r GIG i mewn i amgylchiadau'r digwyddiad.
"Felly, nid oes modd i ni wneud sylw pellach nes bod ein hymchwiliad wedi ei gwblhau a bod y ffeithiau gyda ni i gyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2014

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2014
