Gweilch 26 - 11 Connacht
- Cyhoeddwyd

Ennill wnaeth y Gweilch gartref yn erbyn Connacht, a hynny o 26-11.
Aeth y tîm cartref ar y blaen yn gynnar diolch i gic gosb lwyddiannus gan Sam Davies.
Llwyddodd Craig Robinson i unioni'r sgôr gyda chic gosb dri munud cyn diwedd yr hanner cyntaf.
Connacht aeth ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner diolch i gic gosb arall gan Robinson.
Ond dau funud yn ddiweddarach, roedd y Gweilch ar y blaen unwaith eto, wrth i Jeff Hassler sgorio cais.
Ychwanegodd Davies at gyfanswm y Gweilch gyda throsiad a dwy gic gosb lwyddiannus, cyn i Martin Roberts sgorio cais arall i'r tîm cartref.
Llwyddodd Eoin McKeon i sgorio cais i Connacht, ond roedd hi'n rhy hwyr i atal buddugoliaeth y Gweilch.