Rhyddhau dyn wedi marwolaeth Croesoswallt
- Cyhoeddwyd

Bu farw Matthew Jones ddydd Sadwrn, ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 20 oed
Mae dyn gafodd ei arestio yn dilyn marwolaeth Matthew Jones, 20 oed o Wrecsam, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y dyn 38 oed ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad a darparu cyffuriau dosbarth A, ar ôl marwolaeth Mr Jones wedi digwyddiad mewn parc sglefrio yng Nghroesoswallt.
Cafodd Mr Jones ei gludo i Ysbyty Brenhinol Yr Amwythig yn dilyn y digwyddiad, lle bu farw'n ddiweddarach.
Bydd post mortem yn cael ei gynnal yn y dyddiau nesaf, ac mae'r farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus.
Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Swydd Amwythig, Tom Harding: "Mae hwn yn achos trist ac fel rhan o'm hymchwiliadau rydym yn parhau i fod yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn nigwyddiad y parc sglefrio nos Wener, ac i mewn i fore Sadwrn.
"Ein cred yw bod gan rhai a fynychodd y digwyddiad wybodaeth hollbwysig sydd o fudd i'r ymchwiliad."
Mae unrhyw un a oedd yn bresennol yn y digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu â'r heddlu ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2014
