Luton 4-2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Yn rownd gyntaf Cwpan yr FA, colli oedd hanes Casnewydd yn erbyn Luton.
Doedd 'na ddim gôl tan ddiwedd yr hanner cynta', a Luton oedd ar y blaen wrth i hanner amser nesáu.
Roedd hi'n gyfartal wedi 50 munud wrth i Yan Klukowski sgorio i'r Alltudion.
Roedd 'na gôl arall yr un i'r ddau dîm, cyn i Luton ddyblu eu mantais, diolch i Ricky Miller a Jake Howells.