Ymosodiad Argoed: Gweddïau mewn gwasanaeth i Cerys Yemm
- Cyhoeddwyd

Bu farw Cerys Marie Yemm wedi i Matthew Williams ymosod arni
Mae gwasanaeth coffa blynyddol yn cynnig gweddïau dros ddynes gafodd ei llofruddio mewn ymosodiad canibalaidd ddydd Iau.
Bu farw Cerys Marie Yemm, 22, wedi i Matthew Williams ymosod arni mewn llety yn Argoed ger y Coed Duon.
Fe ddefnyddiodd yr heddlu wn Taser ar y dyn 34 oed, a bu farw'n ddiweddarach.
"Chaiff hi ddim ei anghofio. Fe fyddwn ni'n cofio ei bywyd hi," medd y Parchedig Charlotte Moss o Gapel y Bedyddwyr Argoed.
Mae'r gweddïau'n cael eu cynnal yn rhan o wasanaeth blynyddol y capel ar Sul y Cofio.
Bnawn Sadwrn, fe gadarnhaodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd arolwg trosedd bellach ddifrifol yn cael ei gynnal.
Mae arolwg o'r fath yn cael ei gynnal pan gaiff trosedd ddifrifol honedig ei chyflawni o fewn 30 diwrnod i ddiwedd dedfryd person.

Dyw manylion troseddau blaenorol Williams a hyd ei ddedfryd heb eu cadarnhau.
Fe ddywedodd Heddlu Gwent mai menyw oedd yr unig heddwas i ymateb i'r ymosodiad yn wreiddiol, cyn i weddill y gwasanaethau brys gyrraedd.
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio, ac wedi cadarnhau fod Williams yn aros yn hostel Sirhowy Arms - cyn-westy sy'n darparu llety i bobl bregus a digartref, yn cynnwys cyn-droseddwyr.
Yno y daeth heddlu o hyd iddo yn ymosod ar Ms Yemm.
Credir ei bod wedi dioddef anafiadau sylweddol i'w hwyneb.

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2014

- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2014

- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2014
