IPCC i ymchwilio i Heddlu Gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd Gareth Williams ei garcharu am bum mlynedd o ganlyniad i wybodaeth ddaeth i law Heddlu De Cymru drwy Brosiect Spade
Bydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn cynnal ymchwiliad i Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â honiadau i'r llu fethu ag ymateb yn briodol i wybodaeth ddaeth i law yn ymwneud â delweddau anweddus o blant.
Cyhoeddodd y Comisiwn eu bod hefyd yn ymchwilio i honiadau tebyg i heddluoedd Gogledd Sir Efrog ac Essex.
Roedd y tri llu wedi gofyn i'r Comisiwn gynnal ymchwiliad i'r honiadau.
Dywedodd Sarah Green, dirprwy gadeirydd y Comisiwn, bod penderfyniad wedi ei wneud i gynnal ymchwiliad annibynnol ar ôl ystyriaeth fanwl o'r manylion.
Bydd y Comisiwn yn ystyried sut wnaeth y lluoedd dan sylw ddelio gyda gwybodaeth a gafodd ei roi iddyn nhw gan CEOP (Canolfan Warchod Ecsploetio a Cham-drin Plant).
Roedd prif gwnstabliaid Cymru a Lloegr wedi cael cais i ystyried a ddylai eu lluoedd gael eu cyfeirio ar Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) 'nôl ym mis Hydref, oherwydd y modd y gwnaethon nhw ddelio gyda deunydd yn ymwneud â cham-drin plant, a ddaeth i law drwy Brosiect Spade - cynllun gan heddlu Toronto yng Nghanada - a anfonwyd at yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol (NCA) drwy law CEOP.
Daeth i'r amlwg fod yr NCA wedi cadw'r wybodaeth am 16 mis heb weithredu.
Deunydd o Prosiect Spade arweiniodd at arestio a charcharu Gareth Williams - cyn ddirprwy bennaeth Ysgol Gyfun Glantaf, Caerdydd - am ffilmio plant a chreu delweddu anweddus.
Cafodd Williams ei garcharu am bum mlynedd yn gynharach eleni ar ôl pledio'n euog i 31 cyhuddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2014

- Cyhoeddwyd14 Hydref 2014
