Galw am gymorth i ddychwelyd merch i Gymru
- Cyhoeddwyd

Talia, gyda'i thad Maher Belaid.
Mae gwraig dyn gafodd ei garcharu am chwe blynedd a hanner am gipio eu merch wedi galw am gymorth "i ddod â'i phlentyn yn ôl".
Roedd Maher Belaid, 34 oed, wedi cipio Talia Belaid, oedd yn dri mis oed ar y pryd, tra roedd ei mam, Malgorzata, yn siopa.
Aeth Belaid i Libya wedi i'w briodas chwalu, gan fynd â'i ferch i'r brifddinas Tripoli, lle mae ei fam yn gofalu amdani.
Mae Belaid o Gaerdydd wedi gwrthod cydymffurfio â gorchymyn llys i ddychwelyd Talia, sydd bellach yn 2 oed, i Gymru.
Nid yw Malgorzata, 30 oed o'r Barri, wedi gweld Talia ers hynny.
'Colli popeth'
Dywedodd Ms Belaid wrth y BBC ei bod hi'n benderfynol o sicrhau bod ei merch yn dychwelyd adref.
"Mae gen i e-bost gan ei fam sy'n dweud bod Talia fel ei merch hi bellach, ac na fydd hi'n dychwelyd Talia i mi".
Dywedodd Ms Belaid nad oes ganddi lawer o luniau o Talia, a'i bod hi bron yn bedwar mis oed y tro diwethaf iddi ei gweld.
"Weithiau mae o'n anfon lluniau ata i, er mwyn fy ngwneud i'n fwy trist. Rydw i wedi colli popeth", meddai.
'Trio popeth'
Yn ystod taith siopa i Gaerdydd ddwy flynedd yn ôl, dywedodd Belaid wrth ei wraig y byddai'n mynd â Talia gydag ef wrth iddo gyfarfod ffrindiau tra'r oedd hi'n siopa.
Ond aeth Belaid at ei deulu yn Libya a bellach mae Talia yn galw ei nain yn 'mam'.
Dywedodd Ms Belaid: "Rydw i wedi eu galw nhw droeon, ond pan maen nhw'n clywed fy llais maen nhw'n diffodd y ffôn."
Mae Llysgenhadaeth Prydain ym mhrifddinas Libya, Tripoli, wedi cau dros dro oherwydd trais yn y wlad a ni all gynnig cymorth i Ms Belaid.
Ond mae hi'n benderfynol o sicrhau bydd ei merch yn dychwelyd adref ac wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, David Cameron, yn gofyn am gymorth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2014
