Teyrnged i 'ddyn hynod boblogaidd'
- Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Owen Rhys Jones, dyn 26 oed fu farw mewn tân ym Mhennal, ger Machynlleth yn ystod yr oriau mân fore Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ gosod am 10.15 y bore, Tachwedd 16.
Dywedodd ei dad Glyn Jones fod Owen yn "hynod o boblogaidd, ac mae'r golled yn un torcalonnus ac wedi dod fel sioc enfawr.
"Roedd o'n fab cariadus, brawd, partner, ŵyr, nai, wncwl a ffrind. Does dim angen dweud fod gan bob un ohonom atgofion hoffus, cariadus a doniol ohono.
"Dim ond heddiw - rydym wedi derbyn tua 50 o gardiau drwy'r post, roedd ganddo gymaint o ffrindiau ac roedd o'n boblogaidd iawn."
Cog arbennig
Roedd Owen yn cael ei adnabod fel Pij gan nifer.
Dywedodd hen ffrind ysgol iddo, Osian Llywelyn Edwards: "Dwi'n ffeindio fo'n anodd i'w dderbyn, i'w brosesu.
"Roedd Pij yn gog arbennig o ffraeth a chlen, a wastad yn laff ar noson allan.
"Er fod oesoedd rhwng adegau roedden ni'n gweld ein gilydd, roedd o'n medru sgwrsio fel petai dim amser o gwbl wedi bod rhyngddynt.
"Huna'n dawel, Ows. Roedd hi'n fraint cael dy 'nabod."
'Mor gefnogol'
Bu Mr Jones yng Ngholeg Amaethyddol Llysfasi cyn dechrau ffarmio a gweithio mewn coedwigaeth ar liwt ei hun.
"Roedd o'n cael dipyn o lwyddiant ac yn y ddwy flynedd ddiwethaf roedd y gwaith coedwigaeth wedi mynd yn hynod o brysur, ac roedd o wrth ei fodd," meddai ei dad.
Dywedodd ei deulu mewn datganiad: "Dymunwn ddiolch i ffrindiau a theulu sydd wedi bod mor gefnogol yn ystod yr amser anodd yma, a chymryd y cyfle i ddweud ein bod i gyd yn ei garu cymaint."
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin yn parhau i ymchwilio i achos y tân.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2014
