Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwrthod uno gyda Merthyr
- Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gwrthod cynnig i uno yn wirfoddol gyda Chyngor Merthyr Tudful.
Yn dilyn cyfarfod brys cafodd llythyr ei baratoi i weinidog llywodraeth Cymru, Leighton Andrews, yn esbonio eu rhesymau am wrthod y cynnig.
Bydd trafodaethau rhwng arweinwyr y cynghorau yn mynd yn eu blaen yr wythnos nesaf, a'r cyngor llawn yn ystyried y llythyr.
Mae angen i'r cynghorau ymateb i gynigion llywodraeth Cymru i uno yn wirfoddol erbyn Tachwedd 28.
Mae posib y gall cynghorau Merthyr Tudful a Chaerffili uno.
Dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ei fod wedi cael "trafodaethau positif" gyda Chyngor Caerdydd am rannu rhai gwasanaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan nad oedd yn glir y byddai uno gyda Merthyr Tudful yn arbed unrhyw arian.