Prifysgol Glyndŵr yn adennill hawliau fisa
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiadau yn dweud fod treuan o incwm y brifysgol yn dod gan fyfyrwyr o du allan i Ewrop
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi adennill yr hawl i noddi myfyrwyr o dramor wrth i'r Swyddfa Gartref benderfynu llacio eu cyfyngiadau.
Cafodd y brifysgol yn Wrecsam eu hatal rhag recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ym mis Mehefin yn dilyn ymchwiliad i dwyll fisa honedig.
Roedd y brifysgol yn un o nifer o sefydliadu addysg uwch wnaeth roi canlyniadau anghywir mewn profion iaith Saesneg i fyfyrwyr.
Mae angen tystysgrifau Saesneg am fisa myfyriwr yn y DU, ac mae'r ymchwiliad yn dilyn ymchwil gan raglen y BBC, Panorama.
Mae tua 2,104 o'r 8,400 o fyfyrwyr sydd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn dod o du allan i'r UE.
Dywedodd y Swyddfa Gartref fod y pryderon am Brifysgol Glyndŵr yn canolbwyntio yn bennaf ar gampws maen nhw'n ei reoli yn Llundain.
Fel rhan o'r ymchwiliad, fe ddatgelwyd tystiolaeth fod "pryder difrifol" am 57 o golegau'r DU, ac fe arweiniodd hyn at sancsiynau.
Roedd y mesur yn cynnwys atal statws Prifysgol Glyndŵr fel "Noddwr Hynod Ddibynadwy" mewn dosbarthu fisas i fyfyrwyr.
Ymateb
Mae'r sefydliad wedi croesawu'r penderfyniad ddydd Llun, gan ddweud ei fod yn sicrhau "dyfodol cadarnhaol iawn i Brifysgol Glyndŵr".
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Llywydd Urdd y Myfyrwyr, Penny Anderson, â'r Is-lywydd Marc Caldecott: "Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol ac yn straen ar ein myfyrwyr, ond rydym yn falch fod y sefyllfa hon wedi ei datrys."
Ond mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn dweud nad yw'r pryderon am ddyfodol y brifysgol ar ben eto.
Meddai eu llywydd yng Nghymru, Beth Button: "Efallai bod y penderfyniad yma'n cynnig ychydig o gysur. Ond mae Prifysgol Glyndŵr yn dal i wynebu trafferthion ariannol dybryd. Mae'r bygythiad hwn i ddyfodol y sefydliad yn bryder i ni, ac mae'n amlwg yn bryder i'r myfyrwyr sy'n astudio ar bob campws.
"Mae NUS Cymru'n cefnogi myfyrwyr Glyndŵr. Beth bynnag sy'n digwydd, mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i amddiffyn addysg pob un o'n myfyrwyr - yn hytrach na gwleidyddiaeth y llywodraethau, asiantaethau, rhanbarthau neu bersonoliaethau."
Erbyn yr haf nesa' bydd yn rhaid i'r brifysgol gau'r campws yn yr Elephant & Castle yn Llundain, oedd yn dod ag incwm pwysig i'w coffrau, a fyddan nhw ddim yn cael recriwtio rhagor o fyfyrwyr tramor i'r campws hwnnw.
Campws Llundain
Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd y brifysgol mai dim ond myfyrwyr noddedig y byddan nhw'n eu recriwtio i'r campws yn Wrecsam i ddechrau, gan ddatblygu mwy ar eu gweithgareddau yn Llundain a'u rheolau diogelwch cyn gwneud cais i ailgychwyn recriwtio rhyngwladol ar gyfer darpariaeth yn Llundain yn y dyfodol.
Byddan nhw hefyd yn parhau i adolygu gweithdrefnau cydymffurfio a rhoi prosesau ar waith er mwyn sicrhau rheolaethau llym ar gyfer myfyrwyr presennol.
Meddai'r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol Glyndŵr: "Mae'r Brifysgol yn llwyr ymroddedig i barhau i gefnogi system fisâu myfyrwyr mwy cadarn, ac yn hynny o beth bydd yn gwneud nifer o newidiadau i'w champws yn Llundain yn ystod y misoedd nesaf, gan gynnwys symud i leoliad arall.
"Bydd y Brifysgol yn parhau i gydweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Fisâu a Mewnfudo'r DU, oedd yn rhannu ei phryderon dros fyfyrwyr sy'n astudio'n gyfreithlon ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn unol â'r rheoliadau cyfreithiol.
"Y myfyrwyr yw prif gonsýrn y Brifysgol, ac mae'r mwyafrif ohonynt yn ddiwyd ac ymroddedig.
"Nid ydynt wedi torri rheolau mewnfudo na rheolau'r Brifysgol, ac ni ddylent ddioddef oherwydd camweddau ambell un."
"Mae codi'r gwaharddiad a'r strwythur newydd a roddwyd mewn grym eleni yn argoeli am ddyfodol cadarnhaol iawn i Brifysgol Glyndŵr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2014
