Kidderminster 1-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Kidderminster 1-1 Wrecsam
Fe lwyddodd Wrecsam i sicrhau pwynt wedi i Kidderminster fynd ar y blaen gwta ddau funud wedi dechrau'r gêm nos Fawrth.
Aman Verma sgoriodd i'r tîm cartref.
Fe darodd y Dreigiau'n ôl wedi 65 munud, diolch i ergyd gan droed dde Connor Jennings.
Wedi'r canlyniad, mae Wrecsam yn safle rhif 13 yn y Gyngres.