Pledio'n euog wedi gwarchae yn nhŵr ucha' Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 38 oed wedi pledio yn euog i gyhuddiad yn ymwneud â gwarchae yn nhŵr ucha' Cymru fis Awst.
Fe ymddangosodd Lindsey Edward Coffey, o Bontlliw, yn Llys y Goron Abertawe drwy gyswllt fideo.
Fe wnaeth gyfadde' i fod â gwn ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi ofn neu drais.
Plediodd yn euog hefyd i gyhuddiad o garcharu unigolyn yn anghyfreithlon.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu ddiwedd mis Ionawr 2015.