'Mwynhewch Ddolig Cymraeg' yw'r gri
- Cyhoeddwyd

Mae Martha yn rhan o'r criw sy'n annog Cymry i fwynhau'r Dolig yn Gymraeg eleni
Mae 'na ymgyrch ar droed i annog Cymry i ddefnyddio'r Gymraeg dros y Nadolig.
Bydd ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar wefannau fel Twitter, dolen allanol, Facebook, dolen allanol ac Instagram, dolen allanol yn cynnig awgrym newydd bob dydd, hyd at 25 Rhagfyr, ar sut y gallwch chi fynd ati i ddefnyddio'r Gymraeg.
Bydd awgrymiadau ar bopeth, o ysgrifennu cardiau Nadolig a dysgu carolau Cymraeg i ymadroddion a fydd yn helpu i wneud y broses siopa Nadolig yn ddwyieithog.
Mae'r prosiect yn rhan o gynllun Pethau Bychain, dolen allanol Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio hybu defnydd o'r Gymraeg trwy annog pobl i gymryd camau bach i ddefnyddio'r iaith yn fwy o ddydd i ddydd.
Adroddiad Teleri Glyn Jones
Adduned blwyddyn newydd?
Fel rhan o'r ymgyrch, bydd pobl hefyd yn gallu gwneud adduned blwyddyn newydd i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn 2015.
Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Nod ymgyrch Pethau Bychain yw annog pobl o bob gallu i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
"P'un a'i ydych chi'n ddysgwr, yn rhiant sydd â phlentyn sy'n defnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol neu'n siaradwr rhugl sydd am ddefnyddio'r Gymraeg mewn mwy o sefyllfaoedd, rydym ni am i bobl wybod bod yna gyfle i ddefnyddio'r Gymraeg mewn pob math o sefyllfaoedd."