Cyn gynghorydd yn gwadu peryglu awyrennau
- Cyhoeddwyd

John Arthur Jones
Mae cyn gynghorydd a chyfarwyddwr tai Cyngor Sir Ynys Môn wedi gwadu 13 o gyhuddiadau o beryglu awyrennau drwy anelu golau atyn nhw.
Ymddangosodd John Arthur Jones, 64, o Fodffordd ar Ynys Môn, gerbron llys ynadon Caergybi i wynebu cyhuddiadau o ymddwyn mewn modd oedd yn debyg o beryglu awyrennau Hawk yr Awyrlu wrth iddyn nhw ymarfer gyda'r nos ar faes awyr Mona.
Honnir i'r troseddau ddigwydd rhwng Tachwedd 2013 a Medi 2014 ym Modffordd, a'u bod yn ymwneud ag awyrennau o'r Fali, lle mae peilotiaid yn cael eu hyfforddi i hedfan awyrennau jet.
Penderfynodd yr ynadon y dylai'r achos gael ei glywed yn llys y goron, ac fe fydd Mr Jones yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon yr wythnos nesaf.
Cafodd Mr Jones ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod nad yw'n tanio tortsh nag unrhyw "ddyfais goleuo" arall y tu allan i'w gartref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2014
