Cyngor: Panel yn argymell cyflog llai
- Cyhoeddwyd

Fe adawodd Bryn Parry Jones ei swydd ar 31 Hydref
Mae panel annibynnol wedi argymell y dylai prif weithredwr nesaf Cyngor Sir Penfro gael cyflog o £130,000 y flwyddyn.
Mae hynny £65,000 yn llai nag oedd y cyn brif weithredwr Bryn Parry-Jones yn ei dderbyn cyn iddo adael y swydd ym mis Hydref.
Roedd yr awdurdod ei hun wedi awgrymu cyflog o £145,000 ar gyfer ei olynydd, ond mae Panel Cyflogau Annibynnol Cymru wedi dweud fod hynny'n rhy uchel.
Argymhelliad y panel yw £130,000, ac mae hynny'n seiliedig ar y ffaith mai Cyngor Sir Penfro yw'r 13eg mwyaf yng Nghymru o ran maint, a'r 15ed mwyaf o ran cyllideb, o'r 22 o awdurdodau lleol.
Byddai'r cynnig o £145,000 gan y cyngor yn golygu y byddai'r prif weithredwr newydd ar yr ail gyflog uchaf yng Nghymru.
Roedd cyflog Bryn Parry-Jones o £195,000 yn ei wneud y prif weithredwr ar y cyflog uchaf yng Nghymru.
Datgelodd BBC Cymru yr wythnos ddiwethaf ei fod wedi cael car Porsche gwerth oddeutu £90,000 fel ei gerbyd gwaith, gyda'r trethdalwr yn talu'r gost les ar gyfer y car.
Pan adawodd ei swydd ym mis Hydref, fe gafodd becyn diswyddo gwerth £277,000.
Fe fydd Cyngor Sir Penfro yn trafod argymhellion y panel annibynnol mewn cyfarfod ddydd Iau yr wythnos nesaf, 11 Rhagfyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2014

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2014

- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2014

- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2014

- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2014
