Canolfan hamdden Plas Madoc yn ail-agor
- Cyhoeddwyd

MAe canolfan hamdden a gaeodd ym mis Ebrill wedi agor ei drysau unwaith eto wedi ymgyrch gymunedol i'w hachub.
Fe wnaeth y ganolfan yn agor o dan yr enw newydd, sef Splash Magic, ddydd Sadwrn.
Yn ôl ym mis Medi, cytunodd cynghorwyr Wrecsam i roi grant i ymddiriedolaeth gymunedol, er mwyn eu galluogi i gymryd rheolaeth dros y ganolfan.
Fe gafodd y cyfleusterau eu cau gan yr awdurdod lleol fel rhan o'u cynllun i arbed costau.
Mae'r cyngor hefyd wedi cytuno i roi blaendal i 'Ymddiriedolaeth Splash' er mwyn helpu i ailagor y ganolfan a'i staffio.
Penllanw gwaith caled byddin o wirfoddolwyr gyda chymorth myfyrwyr lleol fydd yr agoriad ddydd Sadwrn.

Roedd croeso mawr i agoriad y ganolfan gan y dorf ddaeth ddydd Sadwrn, gyda llawer yn dweud bod colled mawr wedi bod ers ei chau.
Dywedodd Barbara Mathias bod y ganolfan yn "bwysig iawn i'r plant" a'i bod yn falch iawn bod Plas Madoc ar agor unwaith eto.
Ychwanegodd Sally Turton: "Mae'n gyffrous iawn, alla i ddim esbonio.
"Mi wnes i ddysgu i nofio, mi wnaeth fy mhlant ddysgu i nofio ac mi wnaeth fy wyrion ac wyresau ddysgu i nofio yma. Dyma'r lle gorau iddyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014
