Parhau i holi dyn 19 oed am droseddau terfysgaeth
- Cyhoeddwyd

Roedd cerbydau'r heddlu yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd fore Iau
Mae'r Heddlu yn parhau i holi dyn 19 oed gafodd ei arestio mewn cyrchoedd gwrth terfysgaeth yng Nghaerdydd a'r Barri.
Roedd y dyn yn un o bump gafodd eu harestio ddydd Iau, mae'r pedwar arall wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y pump eu harestio ar amheuaeth o gefnogi mudiadau sydd wedi eu gwahardd.
Mae'r dyn 19 oed hefyd yn cael ei holi ar amheuaeth o baratoi neu gynorthwyo mewn gweithred o derfysgaeth.
Dau o'r dynion gafodd eu harestio oedd Rofi Islam a Sajid Idris.
Dywedodd yr heddlu nad oedd yr arestiadau diweddaraf wedi eu cysylltu gydag achosion dau ddyn gafodd eu cyhuddo ddydd Mercher.
Digwyddodd y cyrchoedd yn ardal Grangetown Caerdydd, fel rhan o ymgyrch ehangach dros Gymru.

Roedd heddlu yn gwarchod tŷ ar Stryd Paget
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2014
