Dyn wedi marw ar ôl disgyn o adeilad yn Ysbyty Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod dyn 83 oed wedi marw ar ôl disgyn o adeilad yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 08:00 fore Sadwrn i adroddiadau bod dyn wedi disgyn o un o loriau uchaf maes parcio'r ysbyty.
Dywedodd yr heddlu nad yw'r farwolaeth yn amheus.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod, a bydd y wybodaeth yn cael ei basio ymlaen i'r crwner.