Nigel Farage yn bwriadu cynnal 'ymgyrch enfawr' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Bydd UKIP yn targedu "saith neu wyth" o seddi Cymreig yn yr etholiad cyffredinol, yn ôl arweinydd y blaid, Nigel Farage.
Yn siarad yng nghynhadledd gyntaf y blaid yng Nghymru, ychwanegodd Mr Farage bod ei blaid yn bwriadu "ymgyrch enfawr" ar etholiad y Cynulliad yn 2016.
Cafodd Aelod Seneddol Ewropeaidd y blaid, Nathan Gill ei enwi yn arweinydd UKIP yng Nghymru.
Ond daeth tua 50 o bobl i Barc Margam ym Mhort Talbot i brotestio yn erbyn Mr Farage a'i blaid.
'Cynnydd etholiadol'
Yn siarad yn y gynhadledd, dywedodd Mr Farage ei fod yn credu y gall UKIP fod yn brif wrthblaid i Lafur ym Mae Caerdydd.
Daeth y blaid o fewn 4,500 pleidlais o guro Llafur yn yr etholiad Ewropeaidd ym mis Mai.
Yn ôl Mr Farage, dyna oedd "canlyniad fwyaf trawiadol y noson".


Cyn y gynhadledd, daeth tua 50 o bobl i brotestio yn erbyn y blaid ym Mharc Margam.
Roedd rhai yn y dorf yn dal baneri yn gwrthwynebu Mr Farage.
Mae tua 150 o gefnogwyr wedi dod i gynhadledd gyntaf y blaid yng Nghymru.

Ychwanegodd Mr Farage: "Mae ein cynnydd etholiadol, ac o ran trefnu, yng Nghymru yn wych. Rydyn ni wedi treblu ein haelodaeth yma."
Yn ôl yr arweinydd, "nid datganoli sy'n methu yng Nghymru, y weinyddiaeth yng Nghaerdydd sydd".
Dywedodd wrth y gynhadledd bod y targed o "saith neu wyth" sedd yn dangos bod y blaid yn cymryd gwleidyddiaeth Cymru "o ddifrif", ac y byddai ymgyrch fawr ar yr etholiad Cynulliad yn 2016.
Yn ystod y gynhadledd, dywedodd Mr Farage bod cyn gynghorydd Ceidwadol, William Routley, a'r cyn gynghorydd Plaid Cymru, Mohammad Sarul Islam, wedi ymuno â UKIP.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru nad oedd y "cynghorydd dan sylw wedi bod yn aelod gweithredol o Blaid Cymru ers rhai blynyddoedd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2014
