Cam-drin hanesyddol: 'Aros rhy hir' am gwnsela
- Cyhoeddwyd

Mae cyhoeddusrwydd i achosion a throseddwyr fel Jimmy Savile wedi arwain at fwy o bobl yn chwilio am gymorth, medd elusen, gan roi gwasanaethau cwnsela dan bwysau
Mae elusen yn honni bod rhaid i rai sydd wedi dioddef camdriniaeth rywiol yn y gorffennol aros hyd at dair blynedd am gymorth cwnselydd.
Daw hyn yn dilyn cynnydd o fwy na 50% yn nifer y bobl sydd wedi cysylltu â thri o heddluoedd Cymru gyda chwynion o'r fath dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mae Survivors Trust - sy'n cynrychioli grwpiau cefnogaeth - yn rhybuddio y gallai pobl roi'r gorau i chwilio am gymorth.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae arian ychwanegol ar gael i elusennau perthnasol.
Yn 2011, fe dderbyniodd heddluoedd De Cymru, Gogledd Cymru a Gwent 515 o gwynion o'r fath - rhif gynyddodd i 794 yn 2013. Doedd data Heddlu Dyfed Powys ddim ar gael.
Mae cyhoeddusrwydd i achosion a throseddwyr fel Jimmy Savile wedi arwain at gynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n chwilio am gymorth, yn ôl Survivors Trust, gan roi gwasanaethau cwnsela dan bwysau.
'Arswydus'
Mae'r elusen yn amcangyfrif bod mwy na 2,000 o bobl yn aros am gwnsela, gydag un o'r sefydliadau sy'n cael ei gynrychioli gan yr ymddiriedolaeth - New Pathways - yn dweud bod rhai yn aros hyd at dair blynedd.
Yn ôl Johanna Robinson - rheolwr datblygu Surivivors Trust yng Nghymru - mae'r oedi'n anodd iawn i ddioddefwyr.
"Mae clywed y geiriau 'mae'n wir ddrwg gen i, ond fydd 'na ddim gwasanaeth i chi am flwyddyn, o leiaf' - wel, mae hynny'n arswydus," meddai.
"Fe fydd hynny hefyd yn ailgynnau'r trawma, gan olygu i'r person golli gobaith a rhoi'r gorau i geisio chwilio am gymorth".

Mae Keith Towler yn canmol 'gwaith ffantastig' y gwasanaethau cwnsela, ond mae'n dweud bod angen rhagor o adnoddau
'Gwaith ffantastig'
Fe fynegodd y Comisiynydd Plant Keith Towler ei bryder hefyd, gan ddweud:
"Yn nhermau cwnsela, mae 'na waith ffantastig yn cael ei gyflawni, ond does 'na ddim digon ohono.
"Yn syml, dyw hynny ddim digon da."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian ychwanegol eleni i gefnogi elusennau sy'n cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i rai sy'n dioddef effeithiau cam-drin rhywiol hanesyddol - oherwydd y cynnydd mewn achosion a rhestrau aros.
"Fe wnawn ni ystyried y dystiolaeth ddiweddara' wrth i ni edrych ar fuddsoddi yn y flwyddyn ariannol nesa."