Disgwyl gwyntoedd cryfion
- Cyhoeddwyd

Rhybudd melyn oherwydd gwyntoedd cryfion, o 00.05 fore Mercher.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o wyntoedd cryfion yng ngogledd Cymru.
Mae disgwyl y gwyntoedd cryfion, a allai fod yn ddifrifol ar brydiau, yn y gogledd o 00:05 fore Mercher hyd at 06:00 fore dydd Iau.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i'r gwyntoedd gyrraedd hyd at 70 i 80 milltir yr awr mewn rhannau agored ar draws y gogledd orllewin.
"Mae rhybudd y gallai'r gwyntoedd cryfion hyn achosi difrod i doeau adeiladau ac i goed," meddai Llyr Griffiths-Davies cyflwynydd tywydd BBC Cymru.
Dylai pobl yn yr ardaloedd sy'n debyg o gael eu taro fod yn wyliadwrus ac mae posibilrwydd y bydd toriad yn y cyflenwad trydan yn ogystal ag anawsterau i deithwyr.
Mae rhybudd melyn wedi ei gyhoeddi yng ngogledd Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd tonnau anarferol o uchel yn Yr Alban yn enwedig, gan achosi perygl o lifogydd ar y ffyrdd.
Dydd Gwener, mae yna rybudd arall o wyntoedd cryfion yng Nghymru, hyd at 60 i 70 milltir yr awr ar hyd y glannau ac hyd at 50 milltir yr awr mewn rhannau eraill o Gymru.
Fe fydd yna law trwm yn ne Cymru fore dydd Gwener ac fe fydd hyn yn gwneud gyrru yn anodd, ac mae'r rhybudd yma mewn grym o 06.00 y bore.