Pedair blynedd i ddyn o Bwllheli am hybu i bwrpas rhyw
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae dyn 25 oed o Bwllheli wedi cael ei garcharu am bedair blynedd am hybu merched ifanc i bwrpas rhywiol.
Dywedodd y Barnwr Nicholas Parry wrth Dylan Lewis ei fod yn "risg ddifrifol i ferched ifanc".
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fe'i cafwyd yn euog ym mis Tachwedd.
Roedd wedi gwadu trefnu trosedd rywiol yn ymwneud â phlentyn a thorri Gorchymyn Atal Troseddau Rhywiol.
Clywodd y llys ei fod wedi cysylltu â 1,000 o ferched ar gyfryngau cymdeithasol.
Pan fydd yn cael ei ryddhau fe fydd o dan amodau trwydded am bedair blynedd.
Merch ddierth
Clywodd y rheithgor ei fod wedi cysylltu â merch ddierth, ei hybu i bwrpas rhywiol a threfnu i gael rhyw gyda hi.
Ond sylwodd ei thad ar fanylion ei ffôn cyn rhoi gwybod i'r heddlu. Doedd dim cyfarfod.
Dywedodd y barnwr ei fod wedi ystyried anawsterau dysgu'r diffynnydd.
"Ond rydych wedi cyfaddef eich bod wedi targedu merched ifanc ... ac wedi cysylltu â 1,000 rhwng 14 ac 15 oed ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Rydych wedi ymddwyn fel rheibiwr rhywiol."
Cafodd Gorchymyn Atal Troseddau Rhywiol ei gyflwyno.