Carcharu gang heroin am 40 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Plediodd y dynion yn euog i gyflenwi heroin.
Mae saith aelod o gang oedd yn gyfrifol am gyflenwi heroin i Gaerdydd wedi eu carcharu am gyfanswm o dros 40 mlynedd.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener fe ddywedodd y barnwr Mr Thomas Crowther fod y diffynyddion wedi eu ''dallu gan farusrwydd, heb allu gweld effaith heroin ar gymdeithas ag ar blant pobl eraill.''
Y saith aelod o'r gang i gael eu carcharu ydi David Cook, Damien Farrugia, David Hale, Joel Harris, Anthony Watson, Joseph Thomas ag Elisha Mutsunge.
Mae dau aelod arall o'r gang yn aros i gael eu dedfrydu.
Cafodd y cynllun i gyflenwi heroin ei ddarganfod pan gafodd dyn oedd yn ganolog i'r cynllun ei arestio yn Nhre-Biwt, Caerdydd, tu allan i gartref ei rieni.
Roedd Joseph Thomas yn cario bag oedd yn cynnwys £73,620 mewn arian parod.
Pan gafodd ei gartref ei archwilio, fe ddaeth yr heddlu o hyd i 5kg o heroin oedd werth tua £500,000.
Roedd y cyffuriau wedi eu torri i flociau hanner kilo, ac wedi eu cadw mewn bin yng ngardd Mr Thomas.
Pan gafodd ei ffôn symudol ei archwilio, fe ddaethpwyd o hyd i 1000 o negeseuon oedd wedi eu cloi gan gyfrineiriau, sydd yn ffurf gyffredin o gadw cysylltiad ymysg gwerthwyr cyffuriau, yn ôl yr erlyniad.
'Tŷ diogel'
Roedd cartref Joseph Thomas yn cael ei ddefnyddio fel 'tŷ diogel' i gadw'r cyffuriau. Dywedodd Mr Thomas wrth yr heddlu ei fod wedi bod yn gaeth i heroin ers 2009, ond ei fod yn gallu parhau i weithio drwy gydol y cyfnod, oedd yn ei alluogi i deithio ar hyd a lled de Cymru.
Cafodd cyflenwadau o heroin eu cludo i'r ardal o Lerpwl a'u gwerthu yng Nghaerdydd, yn ogystal ag Abertawe.
Dywedodd y llys fod tystiolaeth yn dangos fod Thomas wedi derbyn 14kg o heroin o Lerpwl ers 2012.
Roedd aelodau eraill o'r gang yn gyfrifol am ddosbarthu a gwerthu'r cyffuriau oedd wedi ei gyflenwi gan Joseph Thomas. Roedd y cynllwynwyr yn gweithredu am gyfnod o flwyddyn, gydag aelod blaenllaw o'r gang yn gweithredu o Sbaen.