Diffyg cydweithio 'yn bygwth datganoli'
- Cyhoeddwyd

Mae'r adroddiad yn awgrymu bod angen cyfathrebu gwell er mwyn i ddatganoli weithio'n effeithiol
Mae arbenigwr ar wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig wedi cyhuddo gweision sifil Whitehall o beryglu'r prosiect datganoli.
Yn ôl yr Athro Alan Trench does dim digon o strwythur rhwng sefydliadau'r Deyrnas Unedig a'r llywodraethau newydd yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast.
Fe gyhoeddwyd ei adroddiad ar ddatganoli wrth i Brif Weinidogion Llywodraeth Cymru a'r Alban baratoi i gwrdd â David Cameron yn Downing Street.
Mae adroddiad yr Athro Trench o Brifysgol Ulster yn asesu sut mae anawsterau rhwng y llywodraethau datganoledig a Whitehall yn cael eu datrys.
Dywedodd bod gormod o bobl yn dibynnu ar weinidogion San Steffan i ddatrys problemau.
Mae adroddiad "Undeb Cyfnewidiol y Deyrnas Unedig" yn cynnwys nifer o argymhellion gan gynnwys:
Penodi swyddogion annibynnol i ddatrys rhwystrau - yn hytrach na dibynnu ar weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Sefydlu fforwm o bob un o'r sefydliadau er mwyn gwella dealltwriaeth o wahaniaethau deddfwriaethol.
Sefydlu pwyllgor seneddol ar ddatganoli.
Fe gyhoeddwyd yr adroddiad wrth i David Cameron gwrdd â Phrif Weinidog Llywodraeth Cymru Carwyn Jones, a Phrif Weinidog Llywodraeth yr Alban Nicola Sturgeon, yn Downing Street.
Disgwylir i'r cyfarfod gynnwys trafodaeth ar gyfyngu hawliau pleidleisio Aelodau Seneddol Cymru a'r Alban wrth drafod materion sydd yn ymwneud â Lloegr yn unig.