Gôl hwyr Spurs yn trechu Abertawe
- Cyhoeddwyd

Y siom yn amlwg ar wynebau'r chwaraewyr
Uwch Gynghrair Lloegr
Abertawe 1-2 Tottenham Hotspur
Roedd hi'n stori gyfarwydd i gefnogwyr Abertawe; eu tîm yn rheoli'r meddiant ond - y tro hwn o leiaf - yn ofer.
Sgoriodd Christian Eriksen gôl hwyr i'r ymwelwyr - ac erbyn hynny roedd Abertawe yn difaru gwastraffu cyfres o gyfleoedd da.
Roedd hi'n ergyd greulon i'r tîm cartref - yn enwedig ar ôl i Wilfried Bony sgorio ac adfywio eu gobeithion.
Fe ddaeth gôl Bony ar ôl 48 munud - ac yn rhyddhad mawr i'r dorf ar ôl i Spurs sgorio ar ôl 4 munud. Harry Kane yn penio yn dilyn cic gornel Eriksen.
Roedd y Cymro Ben Davies yn chwarae i Tottenham yn erbyn ei hen glwb - ac roedd ei gyfraniad ar ôl 20 munud yn bwysig - wrth iddo atal Wilfried Bony rhag sgorio.

Eriksen yn dathlu ar ol taro'r bel i gefn y rhwyd
Ond chwaraewr arall yng nghrys Spurs wnaeth y cyfraniad pwysicaf. Christian Eriksen a gôl ar ôl 89 munud i'r ymwelwyr. Gôl hwyr arall iddo - a buddugoliaeth arall i Spurs yn erbyn Abertawe.

Bony yn dathlu yn ofer