Ysbytai: Barod i ohirio llawdriniaethau dros y gaeaf
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y bydd rhaid i ysbytai benderfynu gohirio llawdriniaethau nad ydyn nhw'n rhai brys yn y gaeaf, er mwyn canolbwyntio ar ofal brys.
Dyna ddywedodd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Dr Andrew Goodall, mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.
Ond dywedodd Dr Goodall y byddai gohirio triniaeth yn ddewis olaf, a'i fod yn hyderus y byddai staff y GIG yn gallu "cyrraedd y nod" wrth ddelio gyda phwysau ychwanegol y gaeaf.
Cafodd Dr Goodall ei benodi i'r swydd ym mis Mai, ac fe ddywedodd y byddai arian ychwanegol gafodd ei glustnodi i'r GIG yn ddiweddar yn gymorth i ddelio gyda'r gofynion uwch.
Mwy o alw
Mae mwy o alw gan boblogaeth hyn sy'n byw hefo salwch hir dymor yn golygu bod y GIG yng Nghymru yn brysurach nac erioed.
Ond fe all tywydd garw a'r salwch sy'n effeithio nifer o bobl yn ystod y gaeaf roi straen ychwanegol ar wasanaethau.

Mae gweld ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai yn olygfa fwy fwy cyfarwydd yng Nghymru, wrth i'r pwysau ar wasanaethau gynyddu
Pan mae ysbytai yn brysur, mae cleifion angen gwelyau, a gohirio llawdriniaethau nad ydynt yn frys yw un ffordd o wneud hynny.
Mae dau ysbyty yn ardal Abertawe Bro Morgannwg, Treforys a Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont, eisoes wedi gohirio rhai llawdriniaethau tan ar ôl y Nadolig.
'Dewis olaf'
Dywedodd Dr Goodall bod angen i ysbytai eraill, fel rhan o gynlluniau'r gaeaf sydd wedi eu datblygu dros sawl mis, fod yn barod i wneud penderfyniadau tebyg, yn enwedig gan fod disgwyl i'r galw gynyddu yn y flwyddyn newydd.
"Rydyn ni'n gwybod o'n tystiolaeth ein hunain - bydd Ionawr yn brysurach," meddai.
"Bydd byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â gohirio llawdriniaeth drwy beidio derbyn cleifion yn y lle cyntaf."
Ychwanegodd: "Mae'n anochel y bydd rhai byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau yn ddyddiol i ganslo - ond fe fyddai hynny yn ddewis olaf."

Mae cleifion yn byw yn hyn ac felly yn dibynnu yn fwy ar wasanaethau iechyd
'Dewis yn ddoeth'
O'i gymharu â Lloegr a'r Alban, mae cyfradd uwch o gleifion yng Nghymru wedi gorfod aros dros bedair awr mewn adrannau gofal brys.
Mae'r gwrthbleidiau yn dweud mai arwydd pellach o system sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi, yn deillio o flynyddoedd o benderfyniadau gwael a diffyg buddsoddiad.
Ond mae Dr Goodall yn dweud y bydd arian gafodd ei roi gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar yn talu am gostau'r pwysau ychwanegol.
Yn ogystal â hynny, dywedodd bod gan y cyhoedd rhan i'w chwarae i leihau'r pwysau.
"Mae angen i'r cyhoedd ddewis yn gall a bod yn ddoeth am eu dewisiadau mewn beth all fod yn gyfnod pryderus.
"Mae angen i ni gadw adrannau brys ac ambiwlansys i'r achosion sy'n peryglu bywydau ac sy'n fwyaf difrifol.
"Ar hyn o bryd mae ein tystiolaeth yn awgrymu bod peth camddefnydd o'r gwasanaethau yna. Ond mae gyda ni gyfrifoldeb i yrru cleifion at y gwasanaethau y maen nhw eu hangen."