Llai o rôl i ASau Cymru?
- Cyhoeddwyd

Fe fydd rôl aelodau seneddol Cymru ar faterion sy'n ymwneud â Lloegr yn unig yn San Steffan yn cael ei gyfyngu o dan gynlluniau amlinellwyd gan lywodraeth y DU ddydd Mawrth.
Fe wnaeth arweinydd Tŷ'r Cyffredin, William Hague, gyhoeddi cyfres o fesurau er mwyn cyflwyno pleidleisiau Lloegr i ddeddfau Lloegr yn y senedd.
Maen nhw'n cynnwys argymhelliad gan y Ceidwadwyr mai ASau o Loegr yn unig fyddai'n delio gyda mesurau sy'n berthnasol i Loegr yn unig.
Byddai ASau Cymru ond yn cael eu cynnwys mewn materion sy'n cael eu hystyried yn berthnasol i Gymru a Lloegr.
Dywedodd Mr Hague bod yna oblygiadau i Loegr o ddatganoli, a bod "tegwch i holl bobl y DU nawr yn golygu bod angen delio gyda'r mater yma yn derfynol".
Cyhoeddodd Mr Hague adroddiad sy'n cynnwys argymhellion gan ddwy blaid y glymblaid yn San Steffan, ac a gafodd ei greu yn sgil refferendwm annibyniaeth yr Alban.
Wrth ymateb ar ran y blaid Lafur - a wrthododd fod yn rhan o'r trafodaethau - dywedodd Sadiq Khan y byddai ei blaid ef yn rhoi datganoli yng Nghymru ar yr un seiliau cyfreithiol ag yn Yr Alban.
Ond roedd Mr Khan yn feirniadol o gamau i "wneud rhyw fath o gytundebau y tu ôl i ddrysau caeedig" ar bleidleisiau Lloegr yn y senedd.