Tân Abertawe: Ymchwiliad ar droed
- Cyhoeddwyd

Mae'r criwiau o ddiffoddwyr oedd yn delio gyda thân mewn adeilad diwydiannol yn Ardal Fenter Abertawe, bellach wedi gadael y safle.
Mae ymchwiliad i achos y tân wedi cychwyn.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Pure Wafer Limited toc wedi 9.00am ddydd Sul.
Roedd 'na silindrau a chemegau yn yr adeilad, a chafodd yr ardal ei selio.
Am gyfnod, roedd trigolion yn yr ardal yn cael eu cynghori i gadw drysau a ffensestri ynghau.
Mewn datganiad yn hwyr bnawn Sul, fe ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:
"Fe ddechreuodd y tân oddeutu 9.00am y bore 'ma a chafodd 18 o bobl eu symud o'r adeilad cyn i ni gyrraedd.
"Mae ymgyrch lwyddiannus gan y gwasanaethau brys wedi llwyddo i reoli'r tân, a 'dy ni'n gweithio gyda'n partneriaid i geisio canfod pob risg cemegol ac amgylcheddol."
Ychwanegodd y gwasanaeth fod ymchwiliad ar droed i weld beth achosodd y tân.
