Wigley: Cymharu Trident ag Auschwitz
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth yr Arglwydd Wigley ei sylwadau mewn cyfweliad ar gyfer rhaglen World at One ar BBC Radio 4
Mae cyn arweinydd Plaid Cymru Dafydd Wigley wedi ymddiheuro wedi iddo gael ei gyhuddo o gymharu safle Trident gydag gwersyll Auschwitz, mewn cyfweliad gyda'r BBC.
Mae cynllun Trident y DU yn ymwneud â chynlluniau'r llywodraeth i adnewyddu arfau niwclear. Ar hyn o bryd mae'r rhaglen wedi'i leoli ger Ystrad Clud, oddi ar arfordir gorllewinol Yr Alban.
Ddydd Mercher, roedd Llywodraeth y DU wedi wfftio honiadau fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ystyried cynlluniau i symud y fflyd o'r Alban i Gymru.
Wrth drafod y mater ar raglen World at One ar BBC Radio 4, gofynnwyd i Mr Wigley a fyddai'n cytuno y byddai'r cynllun yn dod â swyddi i ardal fel Aberdaugleddau, ble mae swyddi'n brin.
Atebodd yr Arglwydd Wigley drwy gyfeirio at erchyllterau Auschwitz, gan nodi bod diwrnod o gofio'r Holocost wedi bod ddoe.
'Dim cyfiawnhad'
Meddai: "Rydyn ni wedi bod yn cofio'r wythnos yma am yr hyn ddigwyddodd yn yr Almaen cyn y rhyfel, does dim dwywaith fod nifer o swyddi wedi dod trwy Auschwitz a llefydd felly, ond doedd hynny ddim yn cyfiawnhau eu bodolaeth - a does dim cyfiawnhad i gael arfau niwclear yn Sir Benfro.
Gofynnwyd iddo wedyn a oedd o, mewn gwirionedd, yn cymharu safle Trident gyda gwersylloedd y Natsïaid.
"Bydd nifer y bobl fydd yn cael eu lladd gan Trident yn llawer iawn uwch."
Cafodd y cwestiwn ei ofyn eto, gyda'r cyflwynydd yn gofyn yn benodol a oedd yr Arglwydd Wigley yn credu bod y gymhariaeth yn ddilys.
Atebodd Mr Wigley: "Y pwynt rwy'n gwneud ydy bod yn rhaid edrych ar beth mae'r swydd yn golygu, nid dim ond y ffaith bod 'na swydd mewn ardal benodol ac, yn yr achos yma, dydyn ni ddim yn credu y dylen ni gael arfau niwclear o gwbl, rydyn ni'n credu na ddylid adnewyddu Trident, a dydyn ni'n sicr ddim eisiau i'r adnewyddu hwnnw ddigwydd yn Sir Benfro nag yn unman arall yng Nghymru neu, i fod yn deg, unrhyw le ym Mhrydain.
Gofynnodd y gohebydd iddo wedyn a oedd o'n credu bod 'na gymhariaeth foesol rhwng gweithio yn un o safleoedd Trident, y staff, y bobl, yr Albanwyr sy'n gweithio ar safle Trident, gyda'r rheiny oedd yn gweithio yng ngwersylloedd y Natsïaid?
"Na," meddai Mr Wigley. "Y pwynt roeddwn i'n ceisio gwneud oedd hyn, bod yn rhaid ystyried natur y gwaith ac nid dim ond y swydd sy'n bodoli."
Yn dilyn y cyfweliad dywedodd yr Arglwydd Wigley: "Rydw i'n ymddiheuro os oedd modd i fy sylwadau gael eu camddehongli ac rydw i'n ymddiheuro am unrhyw dramgwydd a achoswyd.
"Roeddwn i'n ceisio gwneud y pwynt nad oes modd creu swyddi ar unrhyw gost, ac rydw i'n ailadrodd y pwynt hwnnw."