Delweddau anweddus: Gorchymyn cymunedol
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn Llys y Goron Caernarfon
Mae dyn o Ddinbych, oedd yn euog o wneud a meddu ar ddelweddau anweddus o blant, wedi cael gorchymyn cymunedol am dair blynedd.
Yn Llys y Goron Caernarfon dywedodd William Ellis-Jones, 72 oed, ei bod "yn rhy hawdd" lawrlwytho'r delweddau.
Bydd yn cofrestru fel troseddwr rhyw am bum mlynedd a gorfod talu £410 o gostau.
Clywodd y llys fod ganddo 22,000 o ddelweddau o blant a 449 o fideos anweddus.
Dywedodd yr erlynydd Richard Edwards fod yr heddlu wedi mynd i'w gartre yn Rhagfyr 2013 a mynd â chyfarpar cyfrifiadurol.
Roedd Simon Killeen ar ran yr amddiffyn wedi dadlau fod y diffynnydd cyn y troseddu wedi ymddwyn yn wych.
Dywedodd y Barnwr Peter Heywood: "Yr hyn sy'n cael ei anghofio gan rai o flaen sgrin yw bod y rhain yn blant real sy'n cael eu hecsploetio."