Damwain angheuol: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr fan 41 oed o Sir Fynwy wedi cael ei aretsio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal ar ôl damwain angheuol.
Dywed yr heddlu fod y dyn yn y ddalfa.
Cafodd dyn 44 oed o Dredegar ei ladd mewn gwrthdrawiad gyda fan wen, Mercedes Sprinter. ar yr A449 yn ardal Brynbuga, Sir Fynwy tua 05:40 ddydd Sul.
Dywed yr heddlu fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar y lon ddeheuol.
Cafodd yr A449 wedi ei chau yr holl fordd rhwng yr A40 (Rhaglan) a chyffordd 24 o'r M4.
Dywed Traffig Cymru y gallai'r ddamwain effeithio ar draffig sy'n teithio rhwng yr M4 a'r M50 yn Rhosan ar Wy.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth.
Arwel Evans/Cymrufyw Apêl i achub capel hanesyddol