Dyn wedi marw ar ôl syrthio oddi ar gwch
- Cyhoeddwyd

Cafodd y dyn ei achub oddi ar arfordir Penarth
Mae dyn 72 oed wedi ar ôl syrthio oddi ar gwch ym Mhenarth, Bro Morgannwg.
Cafodd dau fad achub eu hanfon i geisio achub y dyn tua 12.15 pm.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys alw am gymorth hofrennydd, ond yn y diwedd doedd ddim ei angen.
Aed â'r dyn, oedd mewn cyflwr difrifol, mewn ambiwlans i'r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i'r digwyddiad.
