Difrod i bont hynafol ym Mhen Llŷn
Mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio adfer pont dros Afon Daron yn Aberdaron ar ôl iddi gael ei difrodi gan lori artig nos Lun cyn gynted a sydd bosib.
Roedd gyrrwr y lori o Grimsby wedi mynd ar goll yn teithio o Abersoch i Bwllheli, a cheisiodd groesi'r bont yn Aberdaron.
Aeth y cerbyd yn sownd ac mae darn tua 20 metr o wal y bont wedi ei ddymchwel.
Cafodd yr heddlu a'r cyngor eu galw nos Lun ac roedd rhaid defnyddio offer mecanyddol arbenigol i ryddhau'r lori o'r bont.
Mwy gan Sion Tecwyn.