Saethu dryll nwy mewn cartref gofal
- Cyhoeddwyd

Dryll nwy fel yr un gafodd ei ddefnyddio (llun llyfrgell)
Mae gweithiwr gofal yn wynebu cael ei atal rhag gweithio yn y maes wedi iddo adael i fachgen oedd gyda hanes o "drais difrifol" i saethu dryll peled 'BB' ger cartref i blant gyda phroblemau ymddygiad yn Sir Fynwy.
Daeth y gweithiwr gofal â dryll .22 i'r cartref hefyd, yn ôl tystiolaeth mewn gwrandawiad Cyngor Gofal Cymru yng Nghaerdydd.
Roedd James Gurie yn gwadu iddo fethu sicrhau diogelwch plant oedd yn ei ofal.
Daeth y panel i'r casgliad bod pob cyhuddiad, oni bai am un, wedi eu profi.
Bydd y panel yn ailymgynnull ddydd Gwener er mwyn penderfynu a yw Mr Gurie wedi camymddwyn, ac os felly, beth fydd ei gosb.
Nid yw Mr Gurie wedi bod yn bresennol yn ystod y gwrandawiad.
Clywodd pwyllgor y Cyngor Gofal fod Mr Gurie wedi gadael i ddau fachgen saethu dryll peled nwy bychan tu allan i'r cartref.
Difrodi ffenest
Cafodd ffenest ei difrodi gan ddau dwll peledi pan saethodd y bechgyn ati er mwyn deffro bachgen arall.
Clywodd y pwyllgor fod Mr Gurie wedi derbyn wrth edrych yn ôl na ddylai fod wedi mynd â'r ddau ddryll i'r cartref gofal.
Roedd y gweithiwr gofal wedi mynd ag un o'r bechgyn allan i saethu am ddwy flynedd, gyda chaniatâd rheolwyr.
Mewn cyfweliadau cyn y panel disgyblu, dywedodd Mr Gurie ei fod wedi bod yn saethu am 30 o flynyddoedd a'i fod yn ystyried ei hun yn "arweinydd saethu".
'Ymwybodol o ddiogelwch'
Clywodd y gwrandawiad dystiolaeth ganddo - oedd wedi ei ddarllen ar ei ran - oedd yn dweud ei fod yn "ymwybodol o ddiogelwch drwy'r amser".
Roedd wedi colli ei waith yn y cartref yn barod yn dilyn yr honiadau.
Mae'r heddlu hefyd wedi gwrthod gadael iddo barhau i fod yn berchen ar drwydded i ddefnyddio dryll.
Daeth y panel i'r casgliad bod Mr Gurie wedi methu â sicrhau lles a diogelwch trigolion a chyd-weithwyr.
Penderfynodd y panel nad oedd y cyhuddiad bod Mr Gurie wedi bod yn gwylio'r teledu pan oedd dau berson ifanc yn defnyddio dryll peled nwy, wedi'i brofi.