Pryder am gynllun i newid y sector rhentu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Gall gynllun gweinidogion i newid y sector rhentu tai yng Nghymru olygu llai o sicrwydd i denantiaid, a chynnydd yn y bygythiad o gael eu hanfon allan o'u cartrefi, yn ôl rhai.
Fe all y cynllun olygu nad oes rhaid i landlordiaid roi gwybod chwe mis cyn i denantiaid gael eu anfon o'u cartrefi.
Mae mwy na miliwn o bobl yn byw mewn cartrefi wedi eu rhentu yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai bwriad y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw symleiddio'r gyfraith sy'n ymwneud a rhentu, a cheisio gwella safon rhai cartrefi.
'System fwyaf ansicr'
Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o bobl sy'n rhentu yn parhau i fyw mewn tai cymdeithasol, ond mae disgwyl i'r sector breifat ddal fyny, a'i basio, yn y bum mlynedd nesaf.
Mae rhai rhannau o Gymru lle mae'r nifer o gartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat eisoes yn uwch na'r nifer o gartrefi gan gynghorau neu gymdeithasau tai - Caerdydd, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Powys a Bro Morgannwg.
Mae disgwyl y bydd y ddeddf yn amlinellu nifer o fesurau ar gyfer egluro hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid a thenantiaid, a cheisio sicrhau bod y broses rhentu yn symlach.
Bydd y mesurau'n cynnwys cyflwyno dim ond dau fath o denantiaeth - un math ar gyfer tai cymdeithasol a math arall ar gyfer y sector breifat, ynghyd â chyflwyno agwedd fwy hyblyg tuag at gyd-denantiaeth a hawliau olyniaeth mwy safonol.

Ond mae rhai yn pryderu y bydd y ddeddf yn cynnwys cynllun i gael gwared ar y sicrwydd sydd gan denantiaid preifat ar hyn o bryd yn erbyn cael eu taflu allan 'heb fai' yn y chwe mis cyntaf.
Dywedodd John Puzey, cyfarwyddwr Shelter Cymru: "Mae'r syniad o gael gwared ar hwnnw'n gynnig hynod. Bydd yn golygu bod gennym ni'r system rhentu preifat fwyaf ansicr neu anniogel yng ngorllewin Ewrop."
Mae Cyngor Ar Bopeth yn credu bod perygl y gall arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu taflu allan o'u cartrefi.
Dywedodd Elle McNeill: "Rydyn ni'n pryderu ei fod am gael gwared ar yr unig sicrwydd sydd yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd.
"Dydi hynny ddim yn golygu y bydd landlordiaid yn cychwyn taflu pobl o'u cartrefi ar unwaith, ond gallen nhw wneud hynny pe baen nhw'n dymuno."
Mwy o hyblygrwydd
Mae un o'r 130,000 o landlordiaid yng Nghymru wedi dweud y bydd cael gwared ar y cyfnod o chwe mis yn rhoi mwy o hyblygrwydd i denantiaid a landlordiaid.
Dywedodd Liz Davies o Gasnewydd: "Mae dwylo landlordiaid wedi'u clymu, gan orfod rhoi tenantiaeth o chwe mis i bobl. Beth mae'n rhaid i denantiaid ddeall ydi bod ganddyn nhw rwymedigaeth ariannol am y chwe mis hwnnw."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymroi i wneud mwy i helpu diwallu anghenion tai pobl. Ein bwriad yw gwella a symleiddio'r gyfraith a hynny er budd miliwn o bobl sydd ar hyn o bryd yn rhentu yng Nghymru.
"Rydym wedi ymgynghori ar gynigion gan dderbyn cefnogaeth gan nifer o fudiadau megis Tenantiaid Cymru, Shelter Cymru a Chyngor ar Bopeth."
Bydd mwy i'w glywed ar raglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales, dydd Sul, 8 Chwefror, 12:30.