Pris Olew: Yn bwysig i bawb
- Cyhoeddwyd

Mae pris olew yn effeithio pris popeth, medd Dr Carol Bell.
Dr Carol Bell, aelod o Banel Sector Ynni a'r Amgylchedd Llywodraeth Cymru, sy'n egluro arwyddocád y gostyngiad diweddar ym mhrisiau olew.
Un o'r pethau gorau am fod yn y diwydiant olew, yw cael cyfle yn aml i siarad am helyntion beunyddiol pris olew ar y radio a'r teledu yn Gymraeg: cymaint â thair gwaith y dydd weithiau!
Pam mae hyn mor bwysig i ni fel Cymry? Mae pris olew wedi syrthio o $115/gasgen ym Mehefin 2014 i $58/gasgen erbyn hyn (wedi bwrw iselfan o $45/gasgen ym mis Ionawr).
Penderfyniad Saudi Arabia I beidio â thorri nôl ar eu cynnyrch yw'r prif reswm ac, erbyn hyn, gallwn deimlo'r cwymp yn ein pocedi wrth lanw'r car neu'n gwresogi'n cartrefi (yn enwedig mewn ardaloedd gwledig).
Tu hwnt i hyn, mae pris olew yn effeithio pris popeth, yn enwedig bwyd. Rwyf wedi dweud droeon bod dibyniant dynoliaeth ar olew yn ail yn unig i ddŵr.
Heb olew, ni ellir cynhyrchu a chludo digon of fwyd ar gyfer y 7 biliwn ohonom ar y blaned gan fod ffermwyr yn defnyddio olew a nwy nid yn unig mewn cerbydau, ond hefyd mewn gwrtaith a chemegolion amaethyddol eraill.

$/y Gasgen Brent Crude Oil Futures
Mae'r seibiant presennol rhag prisiau olew crai dros $100/gasgen, felly, i'w groesawu yng Nghymru. Does dim cannoedd o swyddi ar y bloc yma, yn wahanol i'r Alban. Dramor, mae cyllidebau Rwsia, Iran, Iraq, Libya, Venezuela a Nigeria wedi eu chwalu, i enwi ond y gwaethaf.
Un o hoff ddywediadau Sheikh Yamani, gweinidog olew enwocaf Saudi Arabia, oedd "The Stone Age came to an end not for a lack of stones and the oil age will end, but not for a lack of oil."
Rwy'n cytuno â'r Sheikh: mae dynoliaeth bob amser yn arloesi technolegau newydd. Ond yn y cyfamser, diolch i'r farchnad olew am roi seibiant i ni rhag prisiau uchel.
Mi fydd Dr Carol Bell yn ymuno â'r Aelodau Cynulliad Keith Davies o'r Blaid Lafur a Simon Thomas o Blaid Cymru a'r Parchedig Dr Felix Aubel sy'n awdur ac yn gyn-ymgeisydd seneddol i'r Ceidwadwyr ar banel Pawb a'i Farn Nos Iau am 9.30 S4C.