Cocên gwerth £1m: Cyhuddo dau o Flaenau Gwent
- Cyhoeddwyd

Fe ddaeth swyddogion yr Asiantaeth Droseddau Brydeinig o hyd i wyth cilogram o gocên
Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo wedi i'r heddlu ddarganfod gwerth £1m o'r cyffur cocên.
Cafodd Martyn Pagett, 31 oed o Flaenau Gwent, a Neil Strange, 60 oed gynt o Flaenau Gwent ond nawr yn byw yn Nyfnaint, eu harestio ym Mryste fis Awst diwethaf lle cafodd y ddau eu darganfod gyda £125,000 mewn arian parod.
Yn ddiweddarach fe ddaeth swyddogion yr Asiantaeth Droseddau Brydeinig o hyd i wyth cilogram o gocên yng Nghwm Crachen, Nantyglo.
Mae'r ddau wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a throseddau'n ymwneud ag ailgylchu arian.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth cyn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 19 Chwefror.