Dyfodol ansicr i lyfrgell Cei Newydd
Ychydig llai na blwyddyn sydd wedi bod ers i Lyfrgell Cei Newydd gael ei hachub.
Cyngor Ceredigion oedd yn arfer bod yn gyfrifol am y gwasanaeth.
Ond roedd pryder y byddai'n rhaid cau'r llyfrgell, gyda'r sir yn dweud ei bod yn rhy ddrud i'w gynnal yn wyneb toriadau ariannol.
Yna cafodd y llyfrgell ei drosglwyddo i ofal grŵp o wirfoddolwyr lleol.
Ond mae rhai o'r gwirfoddolwyr wedi mynegi pryder na chawsant ddigon o wybodaeth gan Gyngor Ceredigion ynglŷn â'r holl gostau sydd ynghlwm gyda chynnal y gwasanaeth.
Mae Cyngor Ceredigion yn wynebu toriadau o £9.5m dros y flwyddyn nesa.
Mewn datganiad fe ddwedodd Cyngor Sir Ceredigion bod Cyngor Tref Cei Newydd wedi arwyddo cytundeb gyda'r Sir ynglŷn â chynnal y gwasanaeth ac yn y cytundeb roedd yna restr o'r costau fyddai'n ddyladwy yn flynyddol a hefyd rhestr o gostau eraill fyddai Cei yn gyfrifol amdano.