Mathew Davies yn cyrraedd Cymru o garchar yn Indonesia
- Cyhoeddwyd

Mathew Davies yn cyrraedd y maes awyr nos Iau
Mae dyn 25 oed gafodd ei garcharu yn Indonesia am dorri rheolau visa wedi dychwelyd i Gymru.
Cafodd Mathew Davies, o'r Coed Duon, Caerffili, ei ddedfrydu i chwe mis dan glo yn 2014.
Cafodd ei garcharu yng ngharchar Cipinang yn Jakarta.
Dywedodd ei fod yn "hapus iawn" i fod adref ar ôl cyrraedd Maes Awyr Caerdydd nos Iau.