Oedi Heddlu Dyfed-Powys yn 'effeithio lles plant'
- Cyhoeddwyd

Mae oedi sylweddol wrth ymchwilio i achosion cam-drin plant ac achosion diangen o blant yn cael eu cadw yn y ddalfa dros nos yn "effeithio ar les plant".
Dyna yw casgliad adroddiad i waith Heddlu Dyfed-Powys gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi.
Mae'r adroddiad yn dweud bod "diffyg dealltwriaeth o ba mor eang mae cam-drin plant yn rhywiol" a bod ymateb yr heddlu'n anghyson.
Er bod yr adroddiad yn nodi bod yr heddlu wedi ymrwymo i wella diogelwch plant, mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi wedi galw ar y llu i weithredu "fel mater o frys".
'Diffyg dealltwriaeth'
Cafodd yr arolwg ei gynnal ym mis Hydref 2014 fel rhan o gyfres o arolygon o heddluoedd Cymru a Lloegr.
Mae'r adroddiad wedi dweud bod oedi sylweddol wrth ymchwilio i achosion yn ymwneud â diogelu plant ac yn yr achosion yma roedd gormod o blant yn cael eu cadw mewn celloedd yr heddlu yn ddiangen.

Ychwanegodd bod "diffyg dealltwriaeth o ba mor eang roedd cam-drin plant yn rhywiol"
Roedd pryder hefyd bod system gofnodi'r heddlu yn wael.
Er hynny, mae'r adroddiad wedi croesawu ymrwymiad y llu i wella gwasanaethau diogelu plant, a bod staff yn "gweithio'n galed, yn ddeallus ac wedi ymrwymo i sicrhau'r canlyniad gorau posib i blant".
Yn ogystal roedd gan y llu gysylltiadau da gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill.
Gwelliannau brys
Mae Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, Dru Sharpling, wedi croesawu ymrwymiad y llu, ond fe alwodd am welliannau brys mewn mannau.
"Mae angen i Heddlu Dyfed-Powys leihau'r oedi wrth ymchwilio," meddai.
"Er bod gwaith cychwynnol da mewn sawl achos, yn rhy aml roedd oedi fyddai'n effeithio ar les plant."
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Andy John bod amddiffyn plant yn flaenoriaeth i Heddlu Dyfed-Powys, a bod y llu "wedi ymrwymo" i weithredu'r argymhellion sydd yn yr adroddiad.
"Mae adolygiad o adnoddau wedi dechrau i sicrhau bod digon o staff arbenigol yn gweithio i amddiffyn plant.
"Yn ogystal mae'r llu wedi ymrwymo i wella eu hymateb i amddiffyn plant sydd mewn perygl o gamdrin rhywiol."
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi wedi gofyn i Heddlu Dyfed-Powys weithredu'r argymhellion o fewn chwe wythnos.