Damwain Caerfaddon: Arestio dau
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio wedi damwain lori yng Nghaerfaddon laddodd bedwar, gan gynnwys merch bedair oed.
Fe darodd lori 30 tunnell, oedd yn cael ei gyrru i lawr Lansdown Lane, yn erbyn cerbydau a cherddwyr ar 9 Chwefror.
Cafodd dyn 19 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn 19 oed a dyn 28 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd.
Bu farw Mitzi Steady, pedair oed, ac mae nain Mitzi yn parhau i fod yn ddifrifol wael.
Bu farw Phil Allen, 52 oed, a Stephen Vaughan, 34 oed, y ddau o Abertawe a Robert Parker, 59, o Gwmbrân.

Yn bedair oed, bu farw Mitzy Steady.