Cynllun cyllid Cyngor Caerdydd 'yn y fantol'
- Cyhoeddwyd

Fe fydd pleidlais ar y gyllideb derfynol wythnos nesaf
Mae BBC Cymru ar ddeall bod cynlluniau cyllid dadleuol Cyngor Caerdydd yn y fantol.
Cyflwynodd y cyngor, sy'n cael ei redeg gan y Blaid Lafur, gynigion ar gyfer cyllideb newydd yr wythnos ddiwethaf, sy'n cynnwys cael gwared ar 600 o swyddi a chynyddu treth y cyngor o 5%.
Ond nawr mae'r gwrthbleidiau yn trafod cynllun gwahanol ag aelodau meinciau ôl Llafur.
Fe fydd pleidlais ar y gyllideb derfynol yr wythnos nesaf.
Bu cyfarfod rhwng arweinwyr y gwrthbleidiau, prif weithredwr y cyngor, Paul Orders, a dau aelod Llafur fore Mercher i drafod eu cynlluniau.
Byddai'n rhaid iddyn nhw gael cefnogaeth nifer o "wrthryfelwyr" Llafur i rwystro cyllideb yr arweinydd Phil Bale rhag cael ei phasio.
Dywedodd ffynonellau Llafur wrth BBC Cymru bod rhai ymysg y blaid yn anfodlon ar gynigion Bale.
Mae disgwyl i'r gwrthbleidiau gyhoeddi eu cynigion gwahanol ddydd Gwener.