Dychwelyd hen Feibl Wrecsam i'r teulu
- Cyhoeddwyd

Cyflwynwyd y Beibl i Brian a Heulwen Parry gan John Donnelly o elusen Tŷ'r Eos fore Iau
Mae elusen yn Wrecsam wedi llwyddo i ddychwelyd Beibl hynafol i berthnasau'r teulu oedd yn berchen arno.
Cafodd y Beibl ei roi i un o siopau elusen Tŷ'r Eos yn Wrecsam gyda thrugareddau eraill yn ddiweddar.
Penderfynodd y staff geisio dod o hyd i berthnasau'r perchnogion.
Yn dilyn cyhoeddusrwydd ar y BBC cafodd Brian a Heulwen Parry wybod mai hen-daid Brian oedd yn berchen ar y Beibl.
Mae'r Beibl Cymraeg, gafodd ei argraffu yn Llundain yn 1837, yn cynnwys sylwadau aelodau'r teulu wrth iddo gael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
Mae'n ymddangos y daeth i feddiant teulu Brian yn gyntaf wedi iddo gael ei roi i John Parry o Lanfihangel yn Sir Drefaldwyn - a hynny'n fuan ar ôl cyhoeddi'r Beibl.