Huddersfield 0 - 0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Huddersfield 0 - 0 Caerdydd
Dyma'r seithfed gêm ar y tro i'r Adar Gleision beidio â'i hennill, wrth i'r gêm yn erbyn Huddersfield orffen yn ddi-sgôr.
Hefyd, dyma'r bedwaredd gêm yn olynol, iddynt orffen yn gyfartal.
Fe arbedodd gôl-geidwad y Terriers, Alex Smithies ergyd bwerus gan Eoin Doyle ar ôl hanner awr o chwarae.
Roedd chwaraewr Huddersfield, Tommy Smith yn ffodus i beidio â chael ei anfon i ffwrdd o'r cae ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn dilyn tacl fudr ar Kenwyne Jones.
Mae Huddersfield yn disgyn i'r 16 safle yn y bencampwriaeth, gyda Chaerdydd un safle ac un pwynt yn is na'r ochr o Swydd Efrog.