Canolfan saethu'r heddlu: Gwrthdroi penderfyniad
- Cyhoeddwyd

Mae penderfyniadau i beidio â chaniatáu Heddlu Gogledd Cymru i logi eu canolfan hyfforddi saethu i glybiau a sefydliadau'r llywodraeth wedi cael ei wrthdroi.
Roedd cynghorwyr Sir Ddinbych wedi gwrthod y cais blaenorol i wneud y ganolfan yn chwarel Craig Y Ddywart, Rhewl ar gael i fudiadau tu allan i'r heddlu.
Roedd y penderfyniad gwreiddiol yn seiliedig ar bryderon am oruchwyliaeth y safle yn ogystal â throseddau yn ymwneud â drylliau.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi annog y cynghorwyr i ailystyried y mater.
Dywedodd adroddiad gan swyddogion i'r pwyllgor cynllunio: "Wrth amddiffyn unrhyw apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod y cais, byddai angen darparu tystiolaeth glir bod yna debygolrwydd rhesymol y bydd cynnydd mewn troseddu yn yr ardal neu'n genedlaethol o ganlyniad i ganiatáu'r cais."
"Nid yw swyddogion yn teimlo bod tystiolaeth o'r fath i gefnogi gwrthod y cais."