'Angen newid targed wyth munud,' medd pennaeth
- Cyhoeddwyd

Mae perfformiad y gwasanaeth yng Nghymru wedi gwella ar ôl y ffigyrau gwaetha' ar gofnod ym mis Rhagfyr.
Mae Pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru y dylid newid y targed o ymateb i alwadau o fewn wyth munud.
Dywedodd Tracy Myhill: "Rydw i'n meddwl bod angen canolbwyntio ar y galwadau pwysicaf. Dyna ble mae amser yn bwysig.
"O ran y rhan fwyaf o'r galwadau rydyn ni'n ei derbyn a'r rhan fwyaf o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, dyw wyth munud ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth.
"... a weithiau dyw'r targed ddim o bwys o ran y canlyniad i gleifion."
Gwella
Ynghynt roedd ffigyrau'n dangos bod perfformiad y gwasanaeth yng Nghymru wedi gwella ar ôl y ffigyrau gwaetha' ar gofnod ym mis Rhagfyr.
Roedd y gwasanaeth wedi llwyddo i ymateb i 48.5% o alwadau Categori A, ble mae perygl uniongyrchol i fywyd, o fewn wyth munud ym mis Ionawr.
Mae hynny 5.9% yn well na'r mis blaenorol pan oedd y ganran yn 42.6% ac ar ei lefel isa' ond 9.1% yn llai na'r un adeg flwyddyn yn ôl.