Damwain Caerfaddon: Angladd Cymro
- Cyhoeddwyd

Bu 'Lansdown Lane' ar gau am 24 awr yn dilyn y ddamwain, er mwyn i swyddogion archwilio'r safle yn fanwl.
Mae angladd dyn gafodd ei ladd mewn damwain gyda lori 30 tunnell yng Nghaerfaddon wedi ei gynnal ger Abertawe ddydd Sadwrn.
Bu farw Phil Allen, 52 oed, o Abertawe yn gynharach yn y mis wedi i lori daro yn erbyn y car Volvo yr oedd yn teithio ynddo ar y pryd.
Cafodd Stephen Vaughan, 34 oed, o Abertawe, a Robert Parker, 59 oed, o Gwmbrân, hefyd eu lladd, ynghyd â Mitzi Steady, 4 oed o Gaerfaddon.
Cafodd angladd Mr Allen ei gynnal yn Eglwys Santes Catherine, yng Ngorseinon.
Roedd y swyddog gweithredol gyda chwmni Western Power Distribution yn briod gyda dau o blant.

Roedd Mr Allen, ynghyd â Mr Parker, yn cael eu gyrru gan Mr Vaughan, oedd yn rhedeg cwmni teithio EliteXecutive pan ddigwyddodd y ddamwain ar Lansdown Lane.
Cafodd dau ddyn eu harestio yn dilyn y ddamwain ar 9 Chwefror.
Mae dyn 19 oed oedd yn gyrru'r lori yn cael ei amau o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod y dyn yn cael ei holi hefyd ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol, ynghyd â dyn arall sy'n 28 oed.
Mae'r ddau wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn parhau.

Cafodd angladd Mr Allen ei gynnal yng Ngorseinon ddydd Sadwrn
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2015

- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2015

- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2015
