Wrecsam ar y ffordd i Wembley eto
- Cyhoeddwyd

Torquay 0-3 Wrecsam (1-5 ar gyfanswm goliau)
Fe fydd gan Wrecsam gyfle i ennill Tlws FA Lloegr am yr ail waith mewn tair blynedd ar ôl curo Torquay o 1-5 ar gyfanswm goliau i yrru'r clwb i Wembley.
Roedd gan Wrecsam ychydig o fantais yn dilyn eu buddugoliaeth o 2-1 ar y Cae Ras yn y cymal cyntaf wythnos diwethaf, yn rownd gyn-derfynol Tlws FA Lloegr.
Roedd yn amlwg bod rheolwr Wrecsam Kevin Wilkin wedi rhoi blaenoriaeth i'r gwpan, wrth iddo roi saib i nifer o chwaraewyr yn ystod gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Forest Green Rovers nos Fawrth yn y gynghrair.
Yn wahanol i Wrecsam, roedd gan Torquay y fantais o beidio chwarae gêm yn ystod yr wythnos, wedi i'w gêm gael ei gohirio oherwydd cyflwr cae Plainmoor.
Fe fydd y rownd derfynnol yn cael ei chynnal yn Wembey ar ddydd Sul, 29 Mawrth. Bydd Wrecsam yn chwarae un ai North Ferriby neu Caerfaddon. Mae'r gêm honno wedi mynd i amser ychwanegol.