Milwyr: Cyhuddo neb yn gywir yn ôl arolwg
- Cyhoeddwyd

Bu farw James Dunsby, Edward Maher a Craig Roberts yn dilyn ymarfer gyda'r Fyddin Diriogaethol yn 2013
Roedd penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â dod ag achos o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol ar ôl marwolaethau tri milwr wrth ymarfer ar Fannau Brycheiniog yn un cywir, yn ôl uned arolygu arbennig.
Bu farw'r Is-Gorpral Craig Roberts, 24, o Fae Penrhyn, Conwy, a'r Is-Gorpral Edward Maher, 31, ar 13 Gorffennaf 2013. Bu farw'r Corpral James Dunsby, o Gaerfaddon, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Roedd y tri wedi bod yn cymryd rhan mewn ymarferiad hyfforddi'r SAS.
Ym Mehefin 2014 clywodd gwrandawiad cyn cwest yn Solihull, canolbarth Lloegr, mai gorboethi laddodd y milwyr.
Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Ngorffennaf 2014 i beidio â dwyn achos gan ddweud: "Doedd y dystiolaeth ar gael ddim yn cyrraedd y safon gyfreithiol ofynnol ar gyfer erlyniad."
Fe wnaeth teuluoedd dau o'r milwyr apelio yn erbyn y penderfyniad, ond nawr mae uned arolygu wedi gwrthod yr apêl.
Gorboethi
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Mae diffyg tystiolaeth er mwyn cynnig cyfle realistig o sicrhau dedfryd yn yr achos."
"Mae'r teuluoedd wedi cael gwybod am y penderfyniad a'r rhesymau tu cefn iddo. Mae ein meddyliau yn parhau gyda'r teuluoedd."
Roedd y milwyr wedi bod ar alltaith 40 milltir (64km) ar Ben y Fan fel rhan o ymarfer pedair wythnos ar gyfer milwyr SAS wrth gefn gyda'r Fyddin Diriogaethol.
Cafodd yr ymarfer ei gynnal ar un o ddyddiau poethaf y flwyddyn pan gyrhaeddodd y tymheredd 29.5C.
Cafodd cwest llawn i'r marwolaethau ei ohirio tan ddiwedd y broses apelio.
Mae disgwyl nawr i'r cwest gael ei gynnal yn Solihull ar ddyddiad sydd heb ei gadarnhau eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014

- Cyhoeddwyd8 Awst 2013

- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2013

- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2013
